Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/02/2017

Gwirfoddolwr Dysgu Cynorthwyol - yng Nghonwy– RSPB


ARDAL CONWY!

Mae gennym interniaeth gwirfoddol o fis Mawrth hyd Medi 2017. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gyflwyno sesiynau ar gyfer grwpiau o hyd at 30 o bobl ifanc o bob oed a gallu drwy gydol ein tymor yr haf. Byddwch yn bennaf yn cyflwyno sesiynau i grwpiau ysgol, ond byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gael profiad o weithio gyda theuluoedd ac oedolion.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com