Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/04/2017

Gwirfoddolwyr Clwb Cinio Bangor – RVS

Mae angen gwirfoddolwyr mewn ar gyfer clwb cinio Bangor. Mae'r rolau hyn yn cynnwys gweini prydau bwyd, cymdeithasu gyda defnyddwyr y gwasanaeth, gan ddarparu lifftiau a chydlynu'r clwb cinio.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr ‘Positive Steps’ – RVS

Bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â pherson hŷn er mwyn darparu cwmnïaeth a chefnogaeth ymarferol . Mae'r rol hon wedi ei chreu er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ac adeiladu hyder y person hŷn er mwyn gwella eu hansawdd bywyd eu hunain . Rydym yn anelu at ddod â'r gymuned at ei gilydd ac i leihau unigedd. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr cymydog da – RVS

05/04/2017

Gwirfoddolwr Efelychiad Anafedig - – Y Groes Goch

Trosolwg:

Byddwch yn actio rai sefyllfaoedd anafiadau yn ein sesiynau hyfforddi er mwyn galluogi'r rhai sy'n dysgu cymorth cyntaf 'drin' chi, a all roi hwb i'w hyder a'u gallu mewn argyfwng cymorthcyntaf.   

Tasgau nodweddiadol yn cynnwys: 

 - Actio fel claf mewn sesiynau hyfforddi ac asesiadau blynyddol
- Actio'n briodol i'r cyflwr / anaf sy'n cael ei bortreadu
- Cefnogi gwaith yrhyfforddwyr

- Mae'r gwirfoddoli yndigwydd yn bennaf ar benwythnosau, ac efallai y bydd eich angen chi arddiwrnodau olynol 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor / cyfaill gwirfoddol – SOVA Cymru (SOVA ACE Achieving Change Through Employment)

Rydym yn chwilio am fentoriaid gwirfoddol i weithio gyda'n cleientiau i oresgyn unigedd cymdeithasol a chynyddu integreiddio o fewn y gymuned. Mae llawer o'n cleientiau yn gwynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol wedi iddynt symud i fyw i'r DU neu'r sawl sydd mewn lloches.

Rôl y gwirfoddolwyr fydd cefnogi'r cleientiau i oresgyn y rhwystrau hyn drwy gyfeillio a chwrdd gyda nhw yn reolaidd mewn lleoliad anffurfiol (e.e caffi ) i ddarparu cefnogaeth chyfle i gymdeithasu. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr STAMP Castell 02 - Caernarfon

Yn dilyn llwyddiant Castell01yn 2016, rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio gyda'r tîm i ddarparu STAMP

Castell02 o ddydd Gwener 12fed - Dydd Sul 14 Mai 2017. Bydd yn benwythnos cyffrous yn dangos gwaith gan artistiaid yng Nghastell Caernarfon ac o amgylch waliau'r dref i ddathlu'r  dref, ei phobl, adeiladau a hanes. 

Mae STAMP Castell02 hefyd yn cyd-daro â ail Gŵyl Fwyd Caernarfon a gynhelir ar yr un penwythnos felly bydd llawer o weithgareddau a phethau i'w gwneud ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddolwyr gan gynnwys: 

• cyfarfod, cyfarch ac arwain y cyhoedd o amgylch lleoliadau o'r gwaith celf;

• sicrhau bod y gwaith celf yn ddiogel (goruchwylio) a disgrifio syniadau artistiaid i'r gynulleidfa fel eu bod yn cael profiad yn fwy pleserus (dehongli); 

• helpu i gyflwyno gweithgareddau celfyddydol gyda'r cyhoedd; 

• helpu i gasglu profiadau ymwelwyr 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfleoedd Newydd - Siop Sefydliad y Galon

Mae gan Siop Sefydliad y Galon nifer o gyfleoedd gwirfoddoli yn y siop ym Mangor.

·         Gwirfoddolwr Llyfrau
·         Gwirfoddolwr Ffôn/Gweinyddol
·         Gyrrwr Casglu Stoc
·         Gwirfoddolwr Desg Arian
·         Gwirfoddolwr Adloniant/Cerddoriaeth a Vinyl
·         Gwirfoddolwr Gofal Cwsmer
·         Gwirfoddolwr Ystafell Sortio 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Trysorydd - Marchogaeth i’r Anabl Treborth

Prif ddyletswyddau:
-Goruchwylio'r cyfrifon banc
-Rheoli cyfrifon National Saving Account
-Cydgordio datganiadau banc gyda taenlenni (spreadsheet)
- Gwirio incwm a gwariant
-Gwirio ac arwyddo sieciau 

Yn flynyddol:
-Paratoi cyfrifon
-Ymweld â'r cyfrifydd gyda'r holl dogfennau perthnasol
-Paratoi ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Adrodd yn ôl yn flynyddol ar-lein i'r Comisiynwyr Elusennau 

Cyffredinol:
-Ymestyn diolchiadau i rhoddwyr
-Mynychu cyfarfodydd Marchogaeth i'r Anabl a pharatoi ffigurau banc ac unrhyw faterion ariannol perthnasol eraill
-Mae ein blwyddyn ariannol o'r 1af Ebrill - 31ain o Fawrth
- Ffeilio datganiadau rhoddion Gift Aid