Yn dilyn llwyddiant Castell01yn 2016, rydym yn chwilio am
unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio gyda'r tîm i ddarparu STAMP
Castell02 o ddydd Gwener 12fed - Dydd Sul 14 Mai 2017.
Bydd yn benwythnos cyffrous yn dangos gwaith gan artistiaid yng Nghastell
Caernarfon ac o amgylch waliau'r dref i ddathlu'r dref, ei phobl, adeiladau a hanes.
Mae STAMP Castell02 hefyd yn cyd-daro â ail Gŵyl Fwyd
Caernarfon a gynhelir ar yr un penwythnos felly bydd llawer o weithgareddau a
phethau i'w gwneud ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.
Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddolwyr gan gynnwys:
• cyfarfod, cyfarch ac arwain y cyhoedd o amgylch
lleoliadau o'r gwaith celf;
• sicrhau bod y gwaith celf yn ddiogel (goruchwylio) a
disgrifio syniadau artistiaid i'r gynulleidfa fel eu bod yn cael profiad yn fwy
pleserus (dehongli);
• helpu i gyflwyno gweithgareddau celfyddydol gyda'r
cyhoedd;
• helpu i gasglu profiadau ymwelwyr
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com