Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

05/04/2017

Mentor / cyfaill gwirfoddol – SOVA Cymru (SOVA ACE Achieving Change Through Employment)


Rydym yn chwilio am fentoriaid gwirfoddol i weithio gyda'n cleientiau i oresgyn unigedd cymdeithasol a chynyddu integreiddio o fewn y gymuned. Mae llawer o'n cleientiau yn gwynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol wedi iddynt symud i fyw i'r DU neu'r sawl sydd mewn lloches.

Rôl y gwirfoddolwyr fydd cefnogi'r cleientiau i oresgyn y rhwystrau hyn drwy gyfeillio a chwrdd gyda nhw yn reolaidd mewn lleoliad anffurfiol (e.e caffi ) i ddarparu cefnogaeth chyfle i gymdeithasu. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com