Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

17/05/2017

Gwirfoddolwr Siop – Cats Protection


Amryw o gyfleoedd gwahanol - gwirfoddoli yn cefn y siop, ar y til, cyfryngau cymdeithasol ac gwaith hyrwyddo. Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 14+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr a Chynorthwywyr Adran – Sgowtiaid Beaver Bethesda


Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mynd â Throli Rownd Ysbyty Gwynedd - RVS


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda darparu gwasanaeth troli yn Ysbyty Gwynedd sy'n cynnig byrbrydau, deunydd darllen a sgwrsio’n gymdeithasol gyda’r cleifion.       

Dyma ffordd grêt i ffrindiau a chyplau wirfoddoli fel tîm neu’n unigol er mwyn helpu i wasanaethu pawb sydd mewn ysbyty  yn staff a chleifion.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

10/05/2017

Dringwch bob Mynydd! Gwirfoddolwch gyda ni ar gyfer ein digwyddiad 'Mount Snowdon Twilight Trek' - Tenovus Cancer Care


Mae gennym lawer o rolau gwirfoddoli cyffrous ar gael! Mae ein digwyddiad Twilight Trek cyntaf i fyny'r Wyddfa ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2017  

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu megis cofrestru'r cerddwyr.

Byddem hefyd yn hoffi ffotograffwyr i gymryd lluniau i gofnodi'r digwyddiad 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Dringwch bob Mynydd! Gwrfoddolwch gyda ni fel Trek Support ar gyfer ein 'Mount Snowdon Twilight Trek'! - Tenovus Cancer Care


Ym mis Mehefin, mae Gofal Canser Tenovus yn cynnal Twilight Trek cyntaf erioed-  ymgais i ddringo mynydd uchaf Cymru yn dros nôs! Rydym yn chwilio am unigolion profiadol yn y maes i'n helpu i roi profiad hwyl, diogel a phleserus ar gyfer ein teithwyr. 

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gwirfoddolwr Cerdded (Canolig - cyflymder Cyflym)
Cadw i fyny gyda'n cerddwyr gyflymaf, byddwch yn cefnogi'r Arweinwyr Mynydd pwrpasol i sicrhau bod ein codwyr arian yn cael eu cefnogi yn ystod y daith. Darparu cymorth i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel. Sgwrsio gyda'n gwirfoddolwyr codi arian i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar.  Mewn achos o argyfwng, efallai y bydd gofyn i chi gynorthwyo aelod o'r grŵp yn ôl i lawr y mynydd (ochr yn ochr â arweinydd arall). 

Gwirfoddolwr Cerdded (Araf - cyflymder Canolig)
Cyflymder arafach- byddwch yn cefnogi'r Arweinwyr Mynydd pwrpasol i sicrhau bod ein codwyr arian yn cael eu cefnogi yn ystod y daith 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Helpu gyda Gŵyl Undod Hijinx – Theatr Hijinx


Am y tro cyntaf eleni, bydd Gŵyl Undod Hijinx yn digwydd yng Nghaernarfon. Mae gan yr ŵyl ei golwg unigryw ei hun, ynghyd â lampshades, baneri, ac ati. 

Cyn yr ŵyl rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr i helpu i drefnu hyn. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Trefnydd Rhoddion – Age Cymru Gwynedd a Môn


 Cynorthwyo gyda threfnu a didoli rhoddion i'n siopau elusen a'n sefydliadau eraill. Hefyd yn cynnwys arddangos a phrisio  eitemau.

Wedi'i leoli ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd Siop Caernarfon – Age Cymru Gwynedd a Môn


Rhowch help llaw drwy helpu yn un o'n siopau elusen sydd wedi ei lleoli yng Nghaernarfon. Mae'r rol yn cynnwys sorio nwyddau, creu arddangosfa a gwasanaethu cwsmeriaid. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com