Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd
oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu
Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a
rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver.
Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored.
Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i
wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y
grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com