Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda darparu
gwasanaeth troli yn Ysbyty Gwynedd sy'n cynnig byrbrydau, deunydd darllen a
sgwrsio’n gymdeithasol gyda’r cleifion.
Dyma ffordd grêt i ffrindiau a chyplau wirfoddoli fel tîm
neu’n unigol er mwyn helpu i wasanaethu pawb sydd mewn ysbyty yn staff a chleifion.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com