Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/07/2017

Trefnydd Cefnogaeth mewn Caffi yn y Gymuned – Y Gymdeithas Strôc

Bydd Trefnwyr Cefnogaeth Caffi yn y Gymuned yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd au gofalwyr, mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Gwyl Rhif.6 – Portmeirion

Hoffech wirfoddoli yn un o ddigwyddiadau mwyaf y wlad eleni? Rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr i weithio yng Ngŵyl Rhif 6 ym mis Medi ym Mhortmeirion.

Gofynnwn i wirfoddolwyr weithio dros 3 shift ac fel diolch bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn tocyn am ddim i fynychu'r ŵyl!

A oes diddordeb gennych chi? Cysylltwch â ni! 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Helpu hefo gweithgareddau clwb – Girls Friendly Society

Allwch chi ein helpu i sefydlu grŵp i ferched a menywod ifanc yn eich ardal chi?  Ers 1875 rydym wedi bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer merched a menywod ifanc i ddatblygu eu hunan-barch, hyder a lles emosiynol. Mae ein clybiau yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod y tymor ysgol ac yn darparu gwasanaeth ar gyfer merched 6-25. 

Cyfeillgarwch yw sail i'n gwaith, cefnogi dysgu sgiliau rhyngbersonol a hymdeithasol, cydweithrediad a datblygu hyder.  Mae ein grwpiau yn amrywio yn ôl sgiliau a diddordebau ein gwirfoddolwyr. Mae sesiynau gyda merched iau yn cynnwys  gemau, crefftau, coginio, cerddoriaeth ac yn y blaen. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd a iechyd rhywiol. 

Arweinwyr gwirfoddol trefnu a chynorthwyo gyda rhedeg cyffredinol y gweithgareddau ac maent ar gael i siarad â merched a menywod ifanc, ac i fod yn fodel rôl priodol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod pwyllgor gwirfoddol – Llygaid Maesincla Eye

Rydym yn chwilio am aelodau'r pwyllgor i fynychu ein cyfarfodydd misol ac ein helpu i drefnu a chymryd rhan mewn digwyddiadau megis ffair haf a ffair Nadolig ayyb.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr/aig prif gyswllt – Fertility Network UK

A oes gennych brofiad o faterion ffrwythlondeb? Yn enwedig wrth geisio bod yn rhieni?  Mae Fertility Network UK yn chwilio am wirfoddolwyr Prif Gyswllt ar draws Cymru. 

Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn darparu cefnogaeth i eraill yn eu hardal leol sydd â phroblemau ffrwythlondeb, mynychu digwyddiadau gyda neu ar ran FNUK, dosbarthu llenyddiaeth amy mudiad yn yr ardal leol, cefnogi gwirfoddolwyr newydd eraill yn yr ardal leol a chadw at bolisïau a gweithdrefnau FNUK. 

Mae croeso i ddynion a merched ymeisio ar gyfer y rôl hon. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Digwyddiadau Gogledd Cymru – RSPB Cymru

RSPB yw’r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU.  Mae ein hadar, ein bywyd gwyllt a’n hardaloedd naturiol yn diflannu’n gyflym, ond gyda’n gilydd, gallwn godi'r arian sydd wir ei angen i achub natur.   Rydym yn gwneud ein gorau i Roi Cartref i Fyd Natur drwy reoli cynefinoedd, addysg ac eiriolaeth ym maes polisïau.   Rydym yn sefydliad brwdfrydig, sy’n dymuno annog cenedlaethau'r dyfodol i ddangos diddordeb ym mhwysigrwydd bywyd gwyllt.   

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, cymdeithasol a fydd yn ysbrydoli’r cyhoedd i gefnogi ein gwaith cadwraeth drwy ymgysylltu â’r cyhoedd a mynd i ddigwyddiadau cymunedol.   Mae’r rôl amrywiol hon yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau, o ffeiriau pentref i sioeau cenedlaethol, fel Gŵyl y Gelli.   Byddwch yn gweithio gydag aelodau staff RSPB lle byddwch yn sgwrsio â’r cyhoedd, yn helpu i osod stondinau ac yn cynnal digwyddiadau diddorol i deuluoedd.   

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Stiwardiaid ar gyfer triathlon Caderman – Bloodwise

Dewch i helpu stiwardio Triathlon Caderman ar ddydd Sadwrn, 5ed Awst 2017. Mae'r ras yn dechrau ar draeth Tywyn gyda nofio, yna seiclo i Ddolgellau a gorffen drwy redeg fyny Cader Idris.. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weld rhai o chwaraewyr enwog rygbi Cymru fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad!

Mae Triathlon Caderman yn gyfle i wirfoddolwyr helpu i drefnu diwrnod pleserus a gwerth chweil a fydd yn codi arian ar gyfer ymchwil hanfodol a chefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt gan ganser  y gwaed. Byddwch yn rhan o'r tîm ac yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau a gwneud ffrindiau newydd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com