Allwch chi ein helpu i sefydlu grŵp i ferched a menywod
ifanc yn eich ardal chi? Ers 1875 rydym
wedi bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer merched a menywod ifanc i ddatblygu eu
hunan-barch, hyder a lles emosiynol. Mae ein clybiau yn cyfarfod yn wythnosol
yn ystod y tymor ysgol ac yn darparu gwasanaeth ar gyfer merched 6-25.
Cyfeillgarwch yw sail i'n gwaith, cefnogi dysgu sgiliau
rhyngbersonol a hymdeithasol, cydweithrediad a datblygu hyder. Mae ein grwpiau yn amrywio yn ôl sgiliau a
diddordebau ein gwirfoddolwyr. Mae sesiynau gyda merched iau yn cynnwys gemau, crefftau, coginio, cerddoriaeth ac yn
y blaen. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd a iechyd rhywiol.
Arweinwyr gwirfoddol trefnu a chynorthwyo gyda rhedeg
cyffredinol y gweithgareddau ac maent ar gael i siarad â merched a menywod
ifanc, ac i fod yn fodel rôl priodol.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com