Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/07/2017

Gwirfoddolwyr Digwyddiadau Gogledd Cymru – RSPB Cymru


RSPB yw’r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU.  Mae ein hadar, ein bywyd gwyllt a’n hardaloedd naturiol yn diflannu’n gyflym, ond gyda’n gilydd, gallwn godi'r arian sydd wir ei angen i achub natur.   Rydym yn gwneud ein gorau i Roi Cartref i Fyd Natur drwy reoli cynefinoedd, addysg ac eiriolaeth ym maes polisïau.   Rydym yn sefydliad brwdfrydig, sy’n dymuno annog cenedlaethau'r dyfodol i ddangos diddordeb ym mhwysigrwydd bywyd gwyllt.   

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, cymdeithasol a fydd yn ysbrydoli’r cyhoedd i gefnogi ein gwaith cadwraeth drwy ymgysylltu â’r cyhoedd a mynd i ddigwyddiadau cymunedol.   Mae’r rôl amrywiol hon yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau, o ffeiriau pentref i sioeau cenedlaethol, fel Gŵyl y Gelli.   Byddwch yn gweithio gydag aelodau staff RSPB lle byddwch yn sgwrsio â’r cyhoedd, yn helpu i osod stondinau ac yn cynnal digwyddiadau diddorol i deuluoedd.   

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com