Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/08/2017

Cynorthwy-ydd Caffi – Ambiwlans Awyr Cymru


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ein caffi yn Dinas Dinlle.

Bydd gwirfoddolwyr yn paratoi a gweini bwyd.

Cadw'r caffi yn lan ac yn daclus. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Efelychiad Anafedig - Y Groes Goch Brydeinig


Trosolwg:  Byddwch yn actio rai sefyllfaoedd anafiadau yn ein sesiynau hyfforddi er mwyn galluogi'r rhai sy'n dysgu cymorth cyntaf 'drin' chi, a all roi hwb i'w hyder a'u gallu mewn argyfwng cymorthcyntaf. 

Tasgau nodweddiadol yn cynnwys:

 - Actio fel claf mewn sesiynau hyfforddi ac asesiadau blynyddol
- Actio'n briodol i'r cyflwr / anaf sy'n cael ei bortreadu
- Cefnogi gwaith yrhyfforddwyr
- Mae'r gwirfoddoli yndigwydd yn bennaf ar benwythnosau, ac efallai y bydd eich angen chi arddiwrnodau olynol 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop – Hospis yn y Cartref (Gwynedd a Môn)

Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol.  Maent yn  awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma.  Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a thaclus. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Dosbarthu 'Macular Matters' – Cymdeithas Maciwlar


Rydym yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr sydd gyda amser i'w sbario i helpu i ddosbarthu ein cylchlythyr 'Macular Matters' ddwywaith y flwyddyn. Mae'r cylchlythyr yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o glefyd macular a chodi arian ar gyfer yr achos. Mae'n cael ei gynhyrchu ym mis Mai a mis Tachwedd. Felly, os allwch sbario ychydig o'ch amser yn ystod y misoedd yma i ddosbarthu'r newyddlen yn eich ardal leol i leoliadau megis clinigau llygaid, meddygfeydd, gwasanaethau golwg gwan, canolfannau iechyd ac ati yna dyma'r cyfle i chi!

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Siop Ambiwlans Awyr Cymru – Tywyn


Ydych chi'n hoffi cyfarfod pobl a chynorthwyo i godi arian at achos da? Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i'w helpu yn eu siop elusen yn Nhywyn, Gwynedd. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r til, sortio dillad, prisio eitemau, tacluso'r siop a delio gyda cwsmeriad o ddydd i ddydd.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Grwp Codi Arian- ardal Porthmadog – Marie Curie


Gall grwpiau codi arian fod yn hwyl, ac yn rhoi cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Gan weithio'n agos gyda gweddill y grŵp, bydd Aelodau'r Grŵp Codi Arian yn weithredol wrth drefnu casgliadau a digwyddiadau cymunedol yn yr ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Grŵp Codi Arian.

Prif dasgau - Dod yn gyfarwydd â gwaith Marie Curie mewn gwasanaethau cyffredinol a Marie Curie yn eu hardal leol yn arbennig, mynychu'n rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp, anfon ymddiheuriadau i'r Ysgrifennydd pan methu mynychu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau y mae'r grŵp yn drefnu megis helpu gyda chasgliadau stryd ac archfarchnad, gwasanaethau tuniau casglu a blychau Daffodil yn y gymuned, cynnal digwyddiadau cymunedol megis partïon te, bore coffi, digwyddiadau noddedig, a helpu i ledaenu'r gair am waith yr elusen yn eich cymuned.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Swyddog Recriwtio Gwirfoddol - Cŵn Tywys


Cefnogi’r Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr i recriwtio gwirfoddolwyr a hyrwyddo manteision gwirfoddoli gyda’r elusen Cŵn Tywys.  Canfod lleoliadau i ddosbarthu gohebiaeth gwirfoddoli gyda’r elusen Cŵn Tywys yn yr ardal leol e.e. llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, canolfannau chwaraeon a hamdden.  Helpu i ganfod, cynllunio a mynd i leoliadau addas i ddiwrnodau gwybodaeth yn yr ardal leol, a mynd i ddigwyddiadau/ffeiriau gwirfoddoli lleol.  Hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned a chydag asiantaethau allweddol fel Canolfannau Gwirfoddoli lleol.  Ymchwilio a chanfod cyfleoedd yn y cyfryngau i dargedu recriwtio gwirfoddolwyr yn eich ardal leol.  Cefnogi’r Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr gydag unrhyw ddigwyddiadau Gwirfoddoli Gweithwyr\Gwirfoddolwyr Corfforaethol lleol lle bo hynny’n bosib.  Helpu i recordio straeon gan ein gwirfoddolwyr yn yr ardal leol i greu amrywiaeth o astudiaethau achos i hyrwyddo recriwtio. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

26/07/2017

Hospis yn y Cartref - Cynorthwyydd Siop



Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ein caffi yn Dinas Dinlle.
Bydd gwirfoddolwyr yn paratoi a gweini bwyd.
Cadw'r caffi yn lan ac yn daclus. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com