Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/08/2017

Aelod Grwp Codi Arian- ardal Porthmadog – Marie Curie


Gall grwpiau codi arian fod yn hwyl, ac yn rhoi cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Gan weithio'n agos gyda gweddill y grŵp, bydd Aelodau'r Grŵp Codi Arian yn weithredol wrth drefnu casgliadau a digwyddiadau cymunedol yn yr ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Grŵp Codi Arian.

Prif dasgau - Dod yn gyfarwydd â gwaith Marie Curie mewn gwasanaethau cyffredinol a Marie Curie yn eu hardal leol yn arbennig, mynychu'n rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp, anfon ymddiheuriadau i'r Ysgrifennydd pan methu mynychu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau y mae'r grŵp yn drefnu megis helpu gyda chasgliadau stryd ac archfarchnad, gwasanaethau tuniau casglu a blychau Daffodil yn y gymuned, cynnal digwyddiadau cymunedol megis partïon te, bore coffi, digwyddiadau noddedig, a helpu i ledaenu'r gair am waith yr elusen yn eich cymuned.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com