Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/08/2017

Swyddog Recriwtio Gwirfoddol - Cŵn Tywys


Cefnogi’r Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr i recriwtio gwirfoddolwyr a hyrwyddo manteision gwirfoddoli gyda’r elusen Cŵn Tywys.  Canfod lleoliadau i ddosbarthu gohebiaeth gwirfoddoli gyda’r elusen Cŵn Tywys yn yr ardal leol e.e. llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, canolfannau chwaraeon a hamdden.  Helpu i ganfod, cynllunio a mynd i leoliadau addas i ddiwrnodau gwybodaeth yn yr ardal leol, a mynd i ddigwyddiadau/ffeiriau gwirfoddoli lleol.  Hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned a chydag asiantaethau allweddol fel Canolfannau Gwirfoddoli lleol.  Ymchwilio a chanfod cyfleoedd yn y cyfryngau i dargedu recriwtio gwirfoddolwyr yn eich ardal leol.  Cefnogi’r Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr gydag unrhyw ddigwyddiadau Gwirfoddoli Gweithwyr\Gwirfoddolwyr Corfforaethol lleol lle bo hynny’n bosib.  Helpu i recordio straeon gan ein gwirfoddolwyr yn yr ardal leol i greu amrywiaeth o astudiaethau achos i hyrwyddo recriwtio. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com