Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/08/2017

Teuluoedd yn Gyntaf – Llysgenhadon sy’n Rhieni - Barnardos

Teuluoedd yn Gyntaf – Llysgenhadon sy’n Rhieni 'Y Pum Peth Pwysig' (Rhaid i wirfoddolwyr fod â phrofiad blaenorol o ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ Barnardo’s) 

Mae Llysgennad sy’n Rhiant yn rhiant sydd â phrofiad personol o ddulliau gweithredu 'Y Pum Peth Pwysig' mewn rhyw ffordd, ac yn ddigon brwdfrydig am effaith y cynllun i fod eisiau ei rannu ag eraill. 

Mae’r rôl yn cynnwys hwyluso gweithgareddau 'Y Pum Peth Pwysig' mewn grŵp a sesiynau un-i-un gyda rhieni a phlant, er mwyn eu galluogi i wella eu sgiliau a gwybodaeth magu plant. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, paratoi, cyflwyno, cofnodi a gwerthuso gweithgareddau. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

02/08/2017

Gwirfoddolwr Codi Arian – Action on Hearing Loss


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda'n casgliadau bwced.  Helpwch ni trwy ysgwyd bwced am ond awr neu ddwy neu hyd yn oed drwy'r dydd.  Bydd yr arian a gasgwlyd yn ein helpu i barhau i gefnogi miloedd o bobl ledled Cymru sy'n byw gyda neu sydd mewn perygl o golli clyw.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Codi Arian Prosiect Cymunedol – Y Gymdeithas Strôc


Ydych chi'n chwilio am gyfle hyblyg a chyffrous? A oes angen prosiect fydd yn cyfrif tuag at eich oriau gwirfoddolwyr ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru neu gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm? Os felly, yna gallai hyn fod yn gyfle delfrydol i chi! 

Ymunwch â'r Gymdeithas Strôc i wirfoddoli gan gynllunio, cynnal a gwerthuso eich digwyddiad codi arian eich hun. Bydd y cyfle gwirfoddoli hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau rheoli digwyddiadau ac yn eich helpu i ddysgu sut i wneud y gorau o'ch adnoddau a pherthnasoedd sydd gennych gyda phobl eraill yn eich cymuned leol. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr cefnogi grwp – Tan y Maen


I gefnogi grwp gwaith estyn allan yn Nolgellau.  Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr codi arian – Royal Voluntary Service


Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i drefnu cyfleoedd codi arian gwych yn y gymuned. Mae'r digwyddiadau hyn yn amrywiol iawn a chaiff gwirfoddolwyr y rhyddid i greu syniadau gyda chefnogaeth lawn gan y tîm rheoli. Rydym yn edrych i ehangu ein gwaith codi arian. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni ddatblygu ac ehangu ein gwasanaethau gan helpu i roi diwedd ar unigrwydd.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop – Oxfam, Porthmadog


1.Gwasanaeth cwsmer-delio gyda cwsmeriaid

2. Dyetswyddau til-hyfforddiant ar gael os oes angen

3.Prosesu,didoli a phrisio eitemau i'w gwerthu yn y siop

4. Gweithio fel tîm

5. Uwchlwytho cynnwys ar ein siop ar-lein

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr grŵp – Gwerin y Coed


Mae Gwerin y Coed yn angerddol am ymgysylltu â'r gymuned ac addysg ar gyfer newid cymdeithasol, yn enwedig gyda phobl ifanc. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i ddarparu rhaglen o weithgareddau hwyliog ac addysgol gyda'n grwpiau (3-15yrs oed) ym Mhenrhyndeudraeth. 

Mae ein prosiect cyfredol 'Natur Wyllt', hefyd yn cynnwys cyfleoedd cyffrous i wirfoddoli a ennill sgiliau ym maes cadwraeth, dehongli treftadaeth, yr economi werdd a menter chydweithredol, yn seiliedig ar y warchodfa natur YNGC 'Gwaith Powdwr'. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Fforwm Ieuenctid yn Amgueddfa Lechi Cymru- Llanberis



Ydych chi rhwng 14 a 25? Fedrwch chi ein helpu i ddenu pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydym yn chwilio am greadigrwydd a syniadau newydd ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at benderfyniadau yn Amgueddfa Cymru.  

Mae Fforwm Ieuenctid ym mhob un o’n Hamgueddfeydd ar draws Cymru. Rydym yn annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 i fod yn bartneriaid i ni a’n helpu i wneud penderfyniadau a threfnu gweithgareddau. Bydd y fforymau yn gwrando ar farn pobl ifanc ac yn canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae fforymau ieuenctid Amgueddfa Cymru yn cyfrannu at brojectau, arddangosfeydd, digwyddiadau, gofal casgliadau, dylunio gwefannau a llawer mwy. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com