Ydych chi rhwng 14 a 25? Fedrwch chi ein helpu
i ddenu pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydym yn chwilio am greadigrwydd a
syniadau newydd ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at
benderfyniadau yn Amgueddfa Cymru.
Mae Fforwm Ieuenctid ym mhob un o’n
Hamgueddfeydd ar draws Cymru. Rydym yn annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 i fod yn
bartneriaid i ni a’n helpu i wneud penderfyniadau a threfnu gweithgareddau.
Bydd y fforymau yn gwrando ar farn pobl ifanc ac yn canolbwyntio ar faterion
sy’n bwysig iddyn nhw. Mae fforymau ieuenctid Amgueddfa Cymru yn cyfrannu at
brojectau, arddangosfeydd, digwyddiadau, gofal casgliadau, dylunio gwefannau a
llawer mwy.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com