Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/08/2017

Gwirfoddolwr Codi Arian Prosiect Cymunedol – Y Gymdeithas Strôc


Ydych chi'n chwilio am gyfle hyblyg a chyffrous? A oes angen prosiect fydd yn cyfrif tuag at eich oriau gwirfoddolwyr ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru neu gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm? Os felly, yna gallai hyn fod yn gyfle delfrydol i chi! 

Ymunwch â'r Gymdeithas Strôc i wirfoddoli gan gynllunio, cynnal a gwerthuso eich digwyddiad codi arian eich hun. Bydd y cyfle gwirfoddoli hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau rheoli digwyddiadau ac yn eich helpu i ddysgu sut i wneud y gorau o'ch adnoddau a pherthnasoedd sydd gennych gyda phobl eraill yn eich cymuned leol. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com