Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/08/2017

Cynorthwy-ydd Gwirfoddol Caffi (16+) – Gisda


Mae hwn yn brosiect i ddatblygu canolfan hyfforddiant i bobl ifanc er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i waith cyflogedig yn y maes arlwyo.

Mae’r rôl gwirfoddolwyr yn gofyn iddynt wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Mentor Cefnogol Caffi – Gisda


I wirfoddoli yng nghaffi Te a cofi drwy gefnogi a mentora gwirfoddolwyr. Fyddech yn gwneud dyletswyddau caffi cyffredinol drwy gefnogi'r gwirfoddolwyr yn eu tasgau. Fyddech yn rhoi cyfarwyddiadau a gyda'r gallu i weld gwaith sydd angen ei wneud.

Fyddech yn cael y cyfle i gynorthwyo'r gwirfoddolwyr i gwblhau eu llyfrau gwaith a hyfforddiant. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Grwpiau Rhieni – Gisda


-           Cynorthwyo’r cefnogwr teulu/mentor cyfoed i drefnu a chydlynu’r grwpiau rhieni
-           Ymuno a’r grwpiau rhieni
-           Cyfathrebu gyda’r rhieni a’u plant
-           I feddwl am syniadau newydd o weithgareddau i’r grŵp rhieni
-           I fod yn gyfeillgar a hyderus o fewn y grŵp
-           I gymryd rhan yn y gweithgareddau a drefnir 

Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Mentor Cyfoed – Gisda


Cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a cefnogol gyda thasgau dyddiol, cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr allweddol/cefnogol,  rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r staff perthnasol, i fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp ffocws, cyfarfod trigolion. Bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd, annog a chefnogi pobl ifanc.  Mae’r cyfle yma yn addas i bob oedran.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Tîm Nodweddion Hanesyddol - RSPB Cors Ddyga (Ynys Mon)


Rydym yn chwilio am dîm bach o 4-6 haneswyr i astudio, cynnal, a chodi ymwybyddiaeth o'r nodweddion hanesyddol yn RSPB Reserve Ddyga Cors ar Ynys Môn. Mae'r safle yn warchodfa hynod ddiddorol sydd yn dod yn fwy adnabyddus i'r cyhoedd. Mae ganddo gyfoeth o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys yr Heneb Gofrestredig Glofa Berw, sy'n darparu llwybr ychwanegol o ddiddordeb i bwysigrwydd bywyd gwyllt y warchodfa.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cymhorthydd Gwarchodfa - RSPB Cors Ddyga (Ynys Mon)


Rydym angen cymorth gwirfoddol gyda rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw gwarchodfa gwlyptir hon. Mae'r tasgau'n cynnwys rheoli planhigion, torri gwair, ffensio, cynnal a chadw ac adeiladu blychau nythu. Gall hyn fod yn waith mwdlyd ond yn rhoi boddhad mawr hefyd. Byddwch yn rhan o dîm sy'n cyfarfod yn wythnosol a byddwch yn gweithio ymhlith rhai o'r bywyd gwyllt gorau ar Ynys Môn!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Ymgysylltu gydag Ymwelwyr– RSPB Conwy


Rydym eisiau ysbrydoli ymwelwyr â gwarchodfa natur RSPB Conwy i ymddiddori mewn bywyd gwyllt ac annog teuluoedd i archwilio byd natur. Mae angen eich help i ymwneud ag ymwelwyr â’r safle, helpu gyda digwyddiadau i deuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r haf, hyrwyddo aelodaeth â ‘r RSPB, a helpu’n gyffredinol i sicrhau bod ymwelwyr ag RSPB Conwy yn cael profiad pleserus, gwybodus ac ysbrydoledig.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Siop Goffi - RSPB Conwy

Mae’r Siop Goffi yn RSPB Conwy yn gyfleuster poblogaidd yn y warchodfa sydd â golygfa anhygoel dros y morlynnoedd a Dyffryn Conwy. Mae’r rôl yn cynnig cyfle i gwrdd a gweithio gyda’n hymwelwyr a helpu i ddarparu gwasanaeth pwysig iawn. Byddwch yn helpu i redeg y Siop Goffi yn effeithlon, yn helpu yn y gegin, yn dangos bywyd gwyllt i bobl; yn sgwrsio ag ymwelwyr ac yn gwella eu hymweliad.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com