Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/08/2017

Cymhorthydd Gwarchodfa - RSPB Cors Ddyga (Ynys Mon)


Rydym angen cymorth gwirfoddol gyda rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw gwarchodfa gwlyptir hon. Mae'r tasgau'n cynnwys rheoli planhigion, torri gwair, ffensio, cynnal a chadw ac adeiladu blychau nythu. Gall hyn fod yn waith mwdlyd ond yn rhoi boddhad mawr hefyd. Byddwch yn rhan o dîm sy'n cyfarfod yn wythnosol a byddwch yn gweithio ymhlith rhai o'r bywyd gwyllt gorau ar Ynys Môn!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com