Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/08/2017

Gwirfoddolwr Ymgysylltu gydag Ymwelwyr– RSPB Conwy


Rydym eisiau ysbrydoli ymwelwyr â gwarchodfa natur RSPB Conwy i ymddiddori mewn bywyd gwyllt ac annog teuluoedd i archwilio byd natur. Mae angen eich help i ymwneud ag ymwelwyr â’r safle, helpu gyda digwyddiadau i deuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r haf, hyrwyddo aelodaeth â ‘r RSPB, a helpu’n gyffredinol i sicrhau bod ymwelwyr ag RSPB Conwy yn cael profiad pleserus, gwybodus ac ysbrydoledig.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com