Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2016

Casglwyr Archfarchnadoedd – Marie Curie



Rydym wrthi yn apelio at unigolion neu grwpiau o bobl i rhoi awr neu ddwy o'u hamser i ddod draw i'n Apêl Great Cennin Pedr, casgliadau Haf a Nadolig, sy'n cael eu cynnal ar draws yr ardal yn yr archfarchnadoedd lleol a strydoedd mawr.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Hos gasglu - de Gwynedd - Marie Curie


Byddwch yn helpu i wneud y gorau o'n casgliadau cyhoeddus yn ystod yr Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth ac ar adegau eraill o'r flwyddyn. P'un ai mewn canolfannau siopa, archfarchnadoedd, ar y stryd fawr neu mewn cyfateb pêl-droed, y cyhoedd yn hynod o hael.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cadeirydd Grwp Codi Arian- de Gwynedd – Marie Curie


 
Mae Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a chynnal digwyddiadau codi arian ac annog cefnogaeth ar gyfer Marie Curie yn y gymuned leol.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Llysgennad Cymunedol- Pen Llyn – Marie Curie



Fel siaradwr cyhoeddus hyderus, byddwch yn rhoi sgyrsiau am yr elusen ac egluro beth yw ein gwaith. P'un ai'n siarad â chlybiau, cymdeithasau neu ag ysgolion lleol, byddwch yn sicrhau bod pobl leol yn gwybod am y gwasanaethau hanfodol a ddarparwn a sut i’w defnyddio, ac yn helpu i annog gwirfoddoli a chodi arian ar gyfer yr elusen.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 18+.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Aelod Grwp Codi Arian- de Gwynedd – Marie Curie



Gall grwpiau codi arian fod yn hwyl, ac yn rhoi cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Gan weithio'n agos gyda gweddill y grŵp, bydd Aelodau'r Grŵp Codi Arian yn weithredol wrth drefnu casgliadau a digwyddiadau cymunedol yn yr ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Grŵp Codi Arian.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 14+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Profiad Ymwelwyr- Pabïau Caernarfon (Storiel)


 
Gan weithio'n benodol gyda'r Pabïau, byddwch chi'n croesawu ymwelwyr i Gastell Caernarfon, yn rhoi cyfarwyddiadau ac yn ateb ymholiadau mewn modd positif a chyfeillgar, ac yn helpu pobl i wneud y mwyaf o'u hymweliad.  Byddwch chi'n hyrwyddo rhaglen o ddigwyddiadau 14-18NOW, yr arddangosfa Cofio er mwyn Heddwch, Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chastell Caernarfon, ac yn annog ymwelwyr i ddysgu am y gymuned leol.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Panel Cymunedol (21+) – Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid


 
Bydd yn ddisgwyliedig i'r gwirfoddolwyr eistedd ar Gyfarfodydd Panel Cymunedol fel rhan o'r broses Biwro (ataliol) a Gorchymyn Cyfeirio (wedi Llys).
 
Mae'r Biwro yn weithrediad i daclo troseddu lefel isel, trwy alluogi pobl ifanc i wneud iawn am eu troseddau heb ymyrraeth gan yr Heddlu. Mae Cyfarfodydd Panel fel arfer yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwynedd a Môn, ac mae nhw wedi eu gneud i fyny o Gadeirydd, Heddwas y GCI a gwirfoddolwr cymunedol.
 
Mae'r Gorchymyn Cyfeirio yng ngorchymyn Llys sydd yn cael ei roi i berson ifanc sydd yn pledio'n euog i'w trosedd cyntaf. Bydd fo/hi yna'n gorfod mynychu Cyfarfod Panel Cymunedol, ble bydd 2 Gwirfoddolwr Cymunedol ac aelod staff o'r GCI yn creu Cytundeb o waith i'r person ifanc weithio arno am hyd eu Gorchymyn. Bydd y Panel yna'n cyfarfod hefo'r person ifanc bob 3 mis i weld os ydynt wedi newid eu ymddygiad troseddol.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi, Ysbyty Gwynedd - Royal Voluntary Service


Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando .
Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty.  Mae’r rôl yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com