Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2016

Profiad Ymwelwyr- Pabïau Caernarfon (Storiel)


 
Gan weithio'n benodol gyda'r Pabïau, byddwch chi'n croesawu ymwelwyr i Gastell Caernarfon, yn rhoi cyfarwyddiadau ac yn ateb ymholiadau mewn modd positif a chyfeillgar, ac yn helpu pobl i wneud y mwyaf o'u hymweliad.  Byddwch chi'n hyrwyddo rhaglen o ddigwyddiadau 14-18NOW, yr arddangosfa Cofio er mwyn Heddwch, Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chastell Caernarfon, ac yn annog ymwelwyr i ddysgu am y gymuned leol.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com