Bydd yn ddisgwyliedig i'r gwirfoddolwyr eistedd ar
Gyfarfodydd Panel Cymunedol fel rhan o'r broses Biwro (ataliol) a Gorchymyn
Cyfeirio (wedi Llys).
Mae'r Biwro yn weithrediad i daclo troseddu lefel isel,
trwy alluogi pobl ifanc i wneud iawn am eu troseddau heb ymyrraeth gan yr
Heddlu. Mae Cyfarfodydd Panel fel arfer yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwynedd
a Môn, ac mae nhw wedi eu gneud i fyny o Gadeirydd, Heddwas y GCI a
gwirfoddolwr cymunedol.
Mae'r Gorchymyn Cyfeirio yng ngorchymyn Llys sydd yn cael
ei roi i berson ifanc sydd yn pledio'n euog i'w trosedd cyntaf. Bydd fo/hi
yna'n gorfod mynychu Cyfarfod Panel Cymunedol, ble bydd 2 Gwirfoddolwr
Cymunedol ac aelod staff o'r GCI yn creu Cytundeb o waith i'r person ifanc
weithio arno am hyd eu Gorchymyn. Bydd y Panel yna'n cyfarfod hefo'r person
ifanc bob 3 mis i weld os ydynt wedi newid eu ymddygiad troseddol. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.