Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/12/2016

Gwirfoddolwr Codi Arian – Action on Hearing Loss


Dewch i'n helpu ni i ledaenu ychydig o hwyl yr wyl y mis Rhagfyr yma! 
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda'n casgliadau bwced.
 
Helpwch ni trwy ysgwyd bwced am ond awr neu ddwy neu hyd yn oed drwy'r dydd,
 
Bydd yr arian a gasgwlyd yn ein helpu i barhau i gefnogi miloedd o bobl ledled Cymru sy'n byw gyda neu sydd mewn perygl o Colli Clyw .
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Swyddog Prosiect Gwirfoddol (Chwaraeon) – Sported


 

 Mae'r cyfle yn un ar gyfer Swyddog Prosiect Gwirfoddol am o leiaf 16 wythnos. Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 16-24 naill ai heb fod mewn cyflogaeth llawn amser neu addysg, neu sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg amser llawn neu gyflogaeth.

Mae'r lleoliad yn gofyn i'r gwirfoddolwr (aig) i gael profiad ymarferol o gefnogi a chyflwyno chwaraeon mewn ardal o dlodi. Gyda'r cyfle hwn, bydd y gwirfoddolwr (aig) yn cael y cyfle i ennill cymwysterau  ochr yn ochr â mynychu dau ddiwrnod cyflogadwyedd a thri Gweithdai Academi Street Games . Rhaid i wirfoddolwyr gwblhau o leiaf 15-25 awr yr wythnos.

 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor – Sported


 
Mae gwirfoddolwyr Sported yn cefnogi ein aelodau ar eu taith i ble maent yn dymuno bod . Drwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad y tu ôl i'r llenni maent yn helpu ein aelodau i ddod yn fwy effeithiol a chynaliadwy; gan eu galluogi i barhau i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn eu cymuned . Fel arfer bydd gwirfoddolwr yn cyflawni swyddogaeth o " Mentor " wrth gefnogi Aelod , yn dibynnu ar anghenion penodol yr Aelod hwnnw .
 

Gwirfoddolwr Cynorthwyydd Glanhau SGLEIN – GISDA


I wirfoddoli yn fenter gymdeithasol SGLEIN yn cwblhau tasgau cyffredin glanhau mewn amryw o adeiladau yn cynnwys swyddfeydd, siopau a thai gan gefnogi pobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill.
 
- Dyletswyddau glanhau cyffredin: hwfro, mopio, hel llwch, tacluso'r cyffredinol.
- Siarad gyda chwsmeriaid yn glen a chyfeillgar a gyda gwen
- Defnyddio rheolau iechyd a diogelwch yn eich gwaith
- Cyfathrebu a gweithio mewn tîm gyda'r mentor glanhau, pobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cefnogi Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau – Y Groes Goch


 
Ein nod yw darparu cymorth cyntaf, i achub bywyd yn achlysurol, i’r rheini sydd angen help mewn digwyddiadau cyhoeddus a chefnogi’r gwasanaeth ambiwlans
 
Allech chi ein helpu ni i wneud hyn?
Allech chi ein cynorthwyo ni i ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau ledled Cymru?
Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau byddwch:
 

Ymwelwyr cartref- prosiect 'Byw'n Dda gyda Colli Clyw' – Action on Hearing Loss


Nod y prosiect yw sicrhau y gall pobl yng Ngogledd Cymru fyw yn dda gyda cholli clyw. Gwneir hyn drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi er mwyn dysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac Action on Hearing Loss felly bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cofrestru gyda'r ddau sefydliad.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr yn y Digwyddiadau / Codi Arian - Stonewall



Mae Stonewall Cymru yn chwilio am dîm o Wirfoddolwyr Digwyddiadau. Bydd y gwirfoddolwyr yn cefnogi staff mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Sparkle Abertawe, Balchder Gogledd Cymru a'r Eisteddfodau, yn ogystal â mynd i ddigwyddiadau llai heb aelodau o staff. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gwerthu cynnyrch, siarad gyda chefnogwyr am ein gwaith a dosbarthu adnoddau. Bydd cyfle hefyd i wirfoddolwyr drefnu eu digwyddiadau eu hunain ac ymgyrchoedd codi arian er budd Stonewall Cymru. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Bydd y cyfle hwn yn ddelfrydol os nad oes gennych lawer o amser, neu eich bod am gyflawni gwaith gwirfoddol y tu allan i ymrwymiadau gwaith.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Diwrnod Canser y Byd 2017 Casgliadau Gwirfoddoli - Cancer Research UK


 

Ar ddydd Gwener y 3ydd a Sadwrn 4ydd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr casglu bwced i gefnogi Diwrnod Canser y Byd. Dyma ddiwrnod y daw'r byd at ei gilydd i ddangos ein bod ni'n unedig yn y frwydr yn erbyn canser. Drwy ymuno ar y diwrnod hwn, gall bob person chwarae eu rhan wrth guro canser yn gynt.