Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/12/2016

Gwirfoddolwyr yn y Digwyddiadau / Codi Arian - Stonewall



Mae Stonewall Cymru yn chwilio am dîm o Wirfoddolwyr Digwyddiadau. Bydd y gwirfoddolwyr yn cefnogi staff mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Sparkle Abertawe, Balchder Gogledd Cymru a'r Eisteddfodau, yn ogystal â mynd i ddigwyddiadau llai heb aelodau o staff. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gwerthu cynnyrch, siarad gyda chefnogwyr am ein gwaith a dosbarthu adnoddau. Bydd cyfle hefyd i wirfoddolwyr drefnu eu digwyddiadau eu hunain ac ymgyrchoedd codi arian er budd Stonewall Cymru. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Bydd y cyfle hwn yn ddelfrydol os nad oes gennych lawer o amser, neu eich bod am gyflawni gwaith gwirfoddol y tu allan i ymrwymiadau gwaith.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com