Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/12/2016

Diwrnod Canser y Byd 2017 Casgliadau Gwirfoddoli - Cancer Research UK


 

Ar ddydd Gwener y 3ydd a Sadwrn 4ydd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr casglu bwced i gefnogi Diwrnod Canser y Byd. Dyma ddiwrnod y daw'r byd at ei gilydd i ddangos ein bod ni'n unedig yn y frwydr yn erbyn canser. Drwy ymuno ar y diwrnod hwn, gall bob person chwarae eu rhan wrth guro canser yn gynt.
 


Mae angen eich help i wirfoddoli mewn safle casglu yn eich ardal chi! Byddwch yn helpu i ddosbarthu Bandiau Unity am rodd awgrymedig o £2, codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Canser y Byd, a chodi cymaint o arian â phosibl ar gyfer y frwydr yn erbyn canser.  Cofrestrwch eich diddordeb nawr a byddwn yn cysylltu â chi ar ddechrau 2017.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com