Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/08/2017

Trefnydd Cefnogaeth mewn Caffi yn y Gymuned -Y Gymdeithas Strôc


Bydd Trefnwyr Cefnogaeth Caffi yn y Gymuned yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd a'u gofalwyr, mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Cwn Tywys – Cymdeithas Cwn Tywys Gwynedd


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn awyddus i gefnogi perchnogion cwn tywys yng Ngwynedd. Pwrpas y rôl yw cefnogi'r unigolion a mynd a'u cwn tywys am dro yn wythnosol.  Y gwirfoddolwyr fydd yn mynd â'r cwn am dro am oddeutu 45 munud i awr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r cwn redeg yn rhydd mewn lle diogel.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth ar gyfer y rôl yma. Mae hwn yn rôl addas os ydych yn berchen ar gi eich hun neu gyda profiad o drin cwn neu os hoffech profiad o ymdrin â chwn.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfeillio mewn Caffi – Y Gymdeithas Strôc


Bydd pobl fydd yn Cyfeillio mewn Caffi yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd a'u gofalwyr, hyn mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Allgymorth – Fledgling Arts Collective Central

 
Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr ar-lein a fydd yn ymateb i'n haelodau naill ai mewn sgwrs fyw (archebu ymlaen llaw) neu drwy negeseuon e-bost.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

 

Gwirfoddolwyr Ymgysylltu Sgrinio – Iechyd Cyhoeddus Cymru

 
Cyfle cyffrous i godi ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio'r GIG gan gynnwys:

• Sgrinio'r fron
• Sgrinio serfigol
• Sgrinio'r coluddyn
• Sgrinio ymlediadau aortig yr abdomen
• Sgrinio llygaid diabetig 

Mae'r rôl hon yn cynnwys sefydlu stondinau gwybodaeth, mynychu digwyddiadau iechyd a throsglwyddo negeseuon allweddol am sgrinio yn eich cymuned leol.

Os ydych yn mwynhau cwrdd â phobl newydd, yr amser i'w sbario ac yn frwdfrydig am hybu iechyd da, beth am ddod yn un o'n Gwirfoddolwyr Ymgysylltu Sgrinio? 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddoli Tramor wedi'i Ariannu – Raleigh ICS


A ddylai fod yna fwy i fywyd?  Rhywbeth mwy arbennig? Rhywbeth fyddai'n gwneud i chi deimlo eich bod mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth? Rhywbeth i fynd â chi i lefydd nad ydych erioed wedi bod o'r blaen?  Yna gwirfoddolwch gyda ICS Raleigh.  Mae ICS yn raglen wirfoddoli a ariennir gan lywodraeth y DU. Golyga hyn bod eich teithiau hedfan, fisa, brechlynnau, hyfforddiant, bwyd, llety a theithio wedi'u talu.  Mae ICS ar gael yn Nepal, Tanzania a Nicaragua, a nawr yn chwilio am wirfoddolwyr am 12 wythnos y Gwanwyn nesaf. 

Beth alla i fod yn ei wneud?

Ar leoliad ICS Raleigh, gallwch fod yn gweithio ar un o ddau faes:

• WASH (Dŵr, Glanweithdra a Hylendid) - Helpu i wella gwybodaeth pobl am ddŵr a glanweithdra diogel
• Bywoliaeth - cefnogi pobl ifanc a menywod i sefydlu busnesau lleol ac adeiladu bywoliaethau cynaliadwy
 
Fe wnewch wahaniaeth i gymunedau gwledig, adeiladu eich CV a datblygu sgiliau trosglwyddadwy 

Gwnewch gais heddiw ar https://goo.gl/iBMceW a herio eich hun i newid eich byd 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

22/08/2017

Pencampwr y Gweithle – Carers Wales


Mae 1 o bob 9 o bobl yn cyfuno gwaith gyda gofalu am rhywun sy'n annwyl iddynt. Llawer ohonynt heb syniad ble i fynd am gymorth. Fel Pencampwr y Gweithle chi fydd y cysylltiad hanfodol rhwng Carers Wales a'ch cydweithwyr. Chi fydd yn codi ymwybyddiaeth am Carers Wales yn eich gweithle. Fe wnewch hyn drwy hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd a fyddwch yn gallu cyfeirio y rhai sy'n chwilio am gefnogaeth atom ac at y gwasanaeth arbenigol sydd ar gael. Gallwch wneud hyn drwy osod posteri yn eich ystafell staff sy'n hysbysebu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth genedlaethol fel Wythnos y Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Rydych yn adnabod eich gweithle a'ch cydweithwyr yn well neb ac fe fyddwn yn falch iawn o gael eich syniadau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau fel Dal i Fyny gyda Gofalwyr neu i redeg stondin gwybodaeth amdanom. Rhowch wybod i ni am eich syniadau. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Archwilio Manwerthu – Tenovus Cancer Care


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i archwilio ein siopau yn eich ardal leol. Mae'r arian a godir gan ein siopau yn hanfodol i'n galluogi i gefnogi cleifion canser a chyllido ymchwil canser. Bydd eich cefnogaeth yn helpu ni i sicrhau bod ein siopau yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol, drwy hynny gallwn helpu hyd yn oed mwy o bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com