Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/08/2017

Gwirfoddolwyr Cwn Tywys – Cymdeithas Cwn Tywys Gwynedd


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn awyddus i gefnogi perchnogion cwn tywys yng Ngwynedd. Pwrpas y rôl yw cefnogi'r unigolion a mynd a'u cwn tywys am dro yn wythnosol.  Y gwirfoddolwyr fydd yn mynd â'r cwn am dro am oddeutu 45 munud i awr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r cwn redeg yn rhydd mewn lle diogel.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth ar gyfer y rôl yma. Mae hwn yn rôl addas os ydych yn berchen ar gi eich hun neu gyda profiad o drin cwn neu os hoffech profiad o ymdrin â chwn.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com