Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/08/2017

Gwirfoddoli Tramor wedi'i Ariannu – Raleigh ICS


A ddylai fod yna fwy i fywyd?  Rhywbeth mwy arbennig? Rhywbeth fyddai'n gwneud i chi deimlo eich bod mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth? Rhywbeth i fynd â chi i lefydd nad ydych erioed wedi bod o'r blaen?  Yna gwirfoddolwch gyda ICS Raleigh.  Mae ICS yn raglen wirfoddoli a ariennir gan lywodraeth y DU. Golyga hyn bod eich teithiau hedfan, fisa, brechlynnau, hyfforddiant, bwyd, llety a theithio wedi'u talu.  Mae ICS ar gael yn Nepal, Tanzania a Nicaragua, a nawr yn chwilio am wirfoddolwyr am 12 wythnos y Gwanwyn nesaf. 

Beth alla i fod yn ei wneud?

Ar leoliad ICS Raleigh, gallwch fod yn gweithio ar un o ddau faes:

• WASH (Dŵr, Glanweithdra a Hylendid) - Helpu i wella gwybodaeth pobl am ddŵr a glanweithdra diogel
• Bywoliaeth - cefnogi pobl ifanc a menywod i sefydlu busnesau lleol ac adeiladu bywoliaethau cynaliadwy
 
Fe wnewch wahaniaeth i gymunedau gwledig, adeiladu eich CV a datblygu sgiliau trosglwyddadwy 

Gwnewch gais heddiw ar https://goo.gl/iBMceW a herio eich hun i newid eich byd 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com