Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

18/10/2017

Cefnogwr ‘Speak UP’ – Age Connects North Wales Central


Cefnogi ac annog pobl hŷn sy’n agored i niwed i gael yr hyder i siarad drostynt eu hunain mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys cartrefi nyrsio a phreswyl, cartrefi lloches a llety gofal ychwanegol.  Annog ystwythder a hunan-barch ac annog sgiliau hunan-eiriolaeth.  Cefnogi pobl hŷn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion, eu hawliau a'u dymuniadau yn cael eu hategu.

Am fanylin pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cydlynydd Casglu Arian - yn eich pentref neu dref – Marie Curie


Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.  Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.  Boed yn dun casglu neu flwch cennin pedr, y cam nesaf yw cyfrif a bancio y rhoddion a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol. 

Mae'r rôl hon yn hyblyg ac yn amrywiol, gallwch drefnu eich amser fel bod eich gwaith gwirfoddol cyd-fynd â'ch bywyd. 

Am fanylin pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

11/10/2017

Gwirfoddolwch gyda ni i gefnogi digwyddiad Marathon Eryri Brooks

Tenovus  


Ers 2003 mae Gofal Canser Tenovus wedi cyd-weithio gyda'r her eiconig gogledd Cymru, Marathon Eryri Brooks. Mae'n anrhydedd i fod yn bartneriaid yn y ras 2017 a gobeithio y bydd ein tîm o 40 o redwyr ymroddedig yn codi dros £13,000 i gefnogi'n gwaith, gan helpu cleifion canser a'u hanwyliaid. 

Rydym yn chwilio am gefnogwyr brwdfrydig i'n helpu i sicrhau profiad gwych a bythgofiadwy i'r holl redwyr sy'n cymryd rhan. 

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gwirfoddolwyr Cefnogi Digwyddiadau x10

Cynnig cefnogaeth ar y llinell orffen, gan groesawu a llongyfarch yr holl redwyr

Rhoi medalau a enillwyd allan, blancedi ffoil a dŵr wrth i'r redewyr groesi'r llinell orffen ar ôl rhedeg ras mynyddig anodd o 22.6 milltir

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymydog Da – RVS


Bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â pherson hŷn er mwyn darparu cwmnïaeth a chefnogaeth ymarferol . Mae'r rol hon wedi ei chreu er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ac adeiladu hyder y person hŷn er mwyn gwella eu hansawdd bywyd eu hunain . Rydym yn anelu at ddod â'r gymuned at ei gilydd ac i leihau unigedd.  Mae’r cyfle yma yn addas i bob oedran. 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cludiant Cymunedol – RVS

Mae gwirfoddolwyr yn defynddio ceir ei hunain i gludo pobl hyn lleol i'w helpu fyw yn annibynol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys darparu cludiant i apwyntiadau meddygol, grwpiau neu glybiau, i'r siop lleol neu i ymweld a theulu a ffrindiau.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl 17+ oed.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Cefnogol Dementia RED – Y Gymdeithas Alzheimer’s

Byddwch yn gyfrifol am weithredu fel cynrychiolydd o Gymdeithas Alzheimer yn allanol drwy gynnal cysylltiadau gyda meddygfeydd teulu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig a phrofiad o ddarparu gwybodaeth a chymorth. Bydd Mannau Gwybodaeth yn cael eu lleoli a'i staffio mewn meddygfeydd teulu. Bydd  'Canolfan Pwynt Gwybodaeth Dementia Care RED ' yn helpu pobl sy'n poeni am neu gyda dementia, eu gofalwyr / teuluoedd a phobl eraill berthnasol i gael gwybodaeth a chyfeiriadau priodol i wasanaethau cymorth cymunedol sy'n darparu cymorth mawr ei angen. Darparu gwybodaeth i unigolion trwy ddosbarthu gwybodaeth a chyfeirio'n briodol i gefnogi pobl i fyw yn dda gyda gwasanaethau cymorth cymunedol dementia.

Helpu pobl sy'n pryderu am eu hunain neu gof rhywun arall i ymdopi a deall y cyflwr yn well.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Pencampwr Gofalwyr (myfyrwyr) – Carers Wales


Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu lleoliad prifysgol. Gellir gwneud hyn trwy osod posteri a dosbarthu taflenni er mwyn adnabod gofalwyr yn y Brifysgol. Gallech drefnu clwb brecwast neu roi cyhoeddusrwydd i'n hymgyrchoedd. Mae gofalwyr yn bobl sy'n gofalu am deulu neu ffrindiau sy'n sâl, yr henoed neu'r anabl. Fel Pencampwr, gallech ddod â gofalwyr at ei gilydd sy'n astudio yn eich Prifysgol fel nad ydynt yn teimlo'n unig neu'n ynysig. Bydd gennych yr wybodaeth a'r profiad i'w cefnogi a'u cyfeirio at Ofalwyr Cymru fel eu bod yn cael y cyngor gorau posibl. Mae'n gyfle i ymarfer a datblygu sgiliau personol, cyfathrebu a rhyngbersonol, rheoli amser a chreadigrwydd. Mae hwn yn gyfle hefyd i gael gwell dealltwriaeth o anghenion gofalwyr.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com