Byddwch yn synnu faint o arian sy'n
cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu
Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal
leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch
osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie. Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld
â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau
llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am
leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin
Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr. Boed yn dun casglu neu flwch cennin pedr, y
cam nesaf yw cyfrif a bancio y rhoddion a chwblhau'r gwaith papur
angenrheidiol.
Mae'r rôl hon yn hyblyg ac yn
amrywiol, gallwch drefnu eich amser fel bod eich gwaith gwirfoddol cyd-fynd
â'ch bywyd.
Am fanylin pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com