Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i gefnogi gofalwyr di-dâl yn
eu lleoliad prifysgol. Gellir gwneud hyn trwy osod posteri a dosbarthu taflenni
er mwyn adnabod gofalwyr yn y Brifysgol. Gallech drefnu clwb brecwast neu roi
cyhoeddusrwydd i'n hymgyrchoedd. Mae gofalwyr yn bobl sy'n gofalu am deulu neu
ffrindiau sy'n sâl, yr henoed neu'r anabl. Fel Pencampwr, gallech ddod â
gofalwyr at ei gilydd sy'n astudio yn eich Prifysgol fel nad ydynt yn teimlo'n
unig neu'n ynysig. Bydd gennych yr wybodaeth a'r profiad i'w cefnogi a'u
cyfeirio at Ofalwyr Cymru fel eu bod yn cael y cyngor gorau posibl. Mae'n gyfle
i ymarfer a datblygu sgiliau personol, cyfathrebu a rhyngbersonol, rheoli amser
a chreadigrwydd. Mae hwn yn gyfle hefyd i gael gwell dealltwriaeth o anghenion
gofalwyr. Mae’r cyfle yma yn addas i
bobl oed 18+.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com