Ein
nôd yw rhoi cefnogaeth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, i’w galluogi i fyw
mor annibynnol ag sy’n bosib.
A
hoffech chi ein helpu ni i wneud hyn?
Rydym
yn cynnig oriau penodol o gefnogaeth i unigolion bregus dros 50 oed..
Dyma
rai tasgau arferol
•Ymweld
ag unigolion yn eu cartrefi unwaith yr wythnos.
•Rhoi
cefnogaeth emosiynol, a chlust i wrando.
•Helpu
rhywun i adennill ei hyder a’u cefnogi i fynd allan o’r tŷ, er enghraifft, mynd
gyda nhw i grŵp cymdeithasol lleol.
•Cynnig
gwybodaeth i bobl am gefnogaeth o fath arall sydd ar gael iddynt yn eu
cymunedau megis elusennau eraill a gweithgareddau cymdeithasol.
•Cadw
cofnod o’r cyswllt a’r gweithgareddau a wnaed gyda’r unigolion
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com