Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

13/02/2015

Cynorthwyo mewn siop Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn

Ydych chi'n hoffi cyfarfod a pobl a chynorthwyo i godi arian at achos da?  Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i'w helpu yn eu siop elusen yn Nhywyn, Gwynedd.  Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r til, sortio dillad, prisio eitemau, tacluso'r siop a delio gyda cwsmeriaid o ddydd i ddydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626