Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/05/2015

Cynorthwy-ydd Digwyddiadau - Castell Penrhyn

Bydd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau yn helpu i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol yng Nghastell Penrhyn gan gynnwys cynllunio, paratoi, sefydlu a rhedeg gweithgareddau ar y diwrnod. Mae'n ymwneud â chynnig rhywbeth sy'n hwyliog a chofiadwy i ymwelwyr a'u hannog i ddychwelyd a / neu dweud wrth eu ffrindiau amdanom ni.


Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer pobl sy'n gyfeillgar a brwdfrydig, yn mwynhau gweithio gyda teuluoedd a chwrdd â phobl o bob oed, yn greadigol ac yn frwdfrydig, yn hapus i weithio dan do ac yn yr awyr agored, yn gallu defnyddio eu menter eu hunain ac sy'n bwyllog ar adegau a chyfnodau prysur. Gall y rôl olygu eich bod ar eich traed drwy'r dydd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com