Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

05/05/2015

Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd - Diwrnod Gwirfoddoli:Gwaith Maes Cofnodi Mynwent

Dyma gyfle i chi helpu ni i gofnodi’r fynwent yn Llanfaglan ar 17 Mai 2015.

Mae’r gwaith cofnodi hyd at hyn wedi cael ei wneud gan bobl ifanc a gwirfoddolwyr gyda chefnogaeth aelodau staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Penwythnos yma rydym yn rhoi cyfle i bobl eraill ymuno gyda ni a darfod y gwaith cofnodi. Mi fydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael , does dim angen profiad blaenorol. Mae'r cyfle yn addas i bawb sy'n 14+ oed ac yn addas tuag at oriau Gwirfoddolwyr y Mileniwm.  Cysylltwch gydag Anita.daimond@heneb.co.uk 01248 366970 mor cyntedd ag sydd posib ar gyfer manylion pellach ac i archebu lle.