Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/05/2015

Singathon Haf- Bangor- Casglwyr Bwced. Tenovus

Mae Gofal Canser Tenovus yn chwilio am lawer o bobl hwyliog a chyfeillgar i wirfoddoli fel casglwyr bwced am ychydig o oriau yn ein Singathon Haf ym Mangor. Bydd Corau a cherddorion yn perfformio drwy gydol y dydd ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i sbario awr neu ddwy er mwyn helpu i godi arian gyda ni a mwynhau perfformiadau!



Bydd y rôl hon yn addas ar gyfer pobl sy'n hyderus ac yn frwdfrydig. Byddwch yn mwynhau bod yn rhan o dîm a helpu o fewn eich cymuned leol i godi arian ac i gefnogi'r elusen. Byddwch yn derbyn brîff gwirfoddol cyn y casgliad a fydd yn eich helpu ar y diwrnod. Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu rhoi cwpl o oriau o'ch amser yn y digwyddiad hwn.  Mae'r cyfle yn addas i bobl 16+ oed.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com