Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes? Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod
yr wythnos neu’r mis? Mae Storiel yn
agor yn ystod tymor yr hydref yng nghanol Bangor. Dim amgueddfa ac oriel newydd yw hon, ond yn
hytrach cyfnod newydd sbon yn hanes Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Byddwn yn symud i ofod newydd ac mi fydd
cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb. Mae’n hanfodol gallu sgwrsio yn y Gymraeg a’r
Saesneg ar gyfer y rôl hon. Nid oes
angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar
gael. Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr
yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly
bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y
siop, derbynfa, y pwynt gwybodaeth i
twristiaid a'r gofod dysgu.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com