Mae hwn yn gyfle unigryw i wirfoddoli ar-lein gyda phrosiect Cynefin.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu trawsgrifio mapiau degwm a dogfennau o'r 1840au. Mae tua 1,200 o fapiau a 30,000 tudalen o ddogfennau ar gael i’w trawsgrifio.
Ariennir prosiect Cynefin gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i wneud gwaith cadwraeth, digido a thrawsgrifio mapiau degwm Cymru er mwyn creu adnodd ar-lein arloesol a fydd yn rhad ac am ddim i bawb i’w defnyddio. Bydd yr adnodd ar-lein hwn yn gyntaf o'i fath ac mi fydd yn newid y ffordd y gall pobl ddefnyddio mapiau degwm i ymchwilio i hanes Cymru.
Mae'r holl waith gwirfoddoli yn cael ei wneud ar-lein ar wefan cyfrannu torfol cynefin.cymru, a gellir gwneud y gwaith ar adeg a chyflymder sy'n addas i chi.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com