Mae
tennis yn cael ei ystyried gan lawer fel chwaraeon elitaidd sy'n cael ei
fwynhau ond gan y rhai sy'n gallu fforddio teithio ac ymuno gyda clybiau tennis preifat yn eu
tref fawr agosaf. Yn 'Tennis Connect' rydym am newid hynny drwy helpu i roi fwy
o gyfleoedd i blant sy'n byw mewn ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru i
gymryd rhan yn y gamp.
Fel
un o'n Llysgenhadon byddwch yn chwarae rhan allweddol gyda 'Tenis Connect' yng
Nghymru drwy gysylltu gydag ysgolion â hyfforddwyr tennis lleol.
Mae
ein gwaith yn cynnwys ysgolion a hyfforddwyr sy'n siarad Cymraeg, naill ai'n
bersonol neu dros y ffôn, er mwyn cael cytundeb mewn egwyddor gan y ddwy ochr,
cyn eu rhoi mewn cysylltiad â'i gilydd i gwblhau'r trefniant a chytuno ar
amseroedd.
Gallwch
roi cyn lleied, neu gymaint, amser i'r achos ag y dymunwch, ond mae angerdd am
tenis yn hanfodol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com