Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

30/03/2017

Gwirfoddolwyr Cofio Er Mwyn Heddwch – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru


Cefnogi ymwelwyr i'n digwyddiadau yng Nghaernarfon ac Ynys Môn yr haf yma.  Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi mewn elfennau o hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, sut i ymchwilio enwau yn y Llyfr Cofio ac hefyd eu trawsgrifio nhw (hyn sydd yn neud o’n bosib chwilio am enw). Mi fydd hyfforddiant tebyg ar gael i wefan Cymru yn y Rhyfel.  Bydd digwyddiadau yn cynnwys arddangosfa yn Eglwys Santes Fair yng Nghaernarfon, Oriel Ynys Mon, Llangefni, a’r Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Mon.  Bydd angen cefnogaeth ym mis Mehefin (12-17), mis Gorffenaf (30) a mis Awst (4-12).

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com