Mae DWA yn chwilio am intern rhyngrwyd, Cyfryngau
Cymdeithasol a Chyfathrebu i godi proffil ac amlygrwydd y sefydliad drwy
ymgyrch aml-sianel.
Bydd yr ymgyrch yn ymgysylltu ag aelodau newydd a
phresennol gan eu cadw'n gyfoes gyda newyddion, digwyddiada ac arferion gorau o
fewn y maes.
Cyfrifoldebau: diweddaru
a chynnal gwefan y DWA, cynyddu ein presenoldeb ar Facebook a Twitter, cynnal y
gronfa data aelodaeth, a log o'r rhai sydd â diddordeb chwilio am newyddion, erthyglau a digwyddiadau sy'n
berthnasol i'r aelodau.
Bydd intern y Rhyngrwyd, Cyfryngau Cymdeithasol a
Chyfathrebu yn gweithredu'r strategaeth gyfathrebu er mwyn gwella gwelededd a
chodi proffil DWA. Mae'r strategaeth cyfathrebu yn anelu at godi ymwybyddiaeth
y tu mewn a thu allan i sector Cymru Affrica y DWA ac yn eirioli ar gyfer
cynnwys pobl anabl o fewn y sector.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com