Allwch chi ein helpu i sefydlu grŵp i ferched a menywod
ifanc yn eich ardal chi?
Ers 1875 rydym wedi bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer
merched a menywod ifanc i ddatblygu eu hunan-barch, hyder a lles emosiynol. Mae
ein clybiau yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod y tymor ysgol ac yn darparu
gwasanaeth ar gyfer merched 6-25.
Cyfeillgarwch yw sail i'n gwaith, cefnogi dysgu sgiliau
rhyngbersonol a chymdeithasol, cydweithrediad a datblygu hyder. Mae ein grwpiau yn amrywio yn ôl sgiliau a
diddordebau ein gwirfoddolwyr. Mae sesiynau gyda merched iau yn cynnwys gemau, crefftau, coginio, cerddoriaeth ac yn
y blaen. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd a iechyd rhywiol.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com