Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/04/2015

Motor Neurone Disease Association - Ymwelydd Cymdeithas Gwynedd

Fel Ymwelwyr Cymdeithas Gwirfoddol bydd gennych ran hanfodol  i'w chwarae o ran cefnogi pobl gyda clefyd Motor Neuron Disease - rhai gyda'r clefyd a'r rhai sy'n agos atynt. Byddwch yn cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac am ddim yn ogystal â gwybodaeth am y Gymdeithas a gwasanaethau eraill sy'n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus. Mae hyn yn helpu i leihau'r ymdeimlad o unigedd i lawer o bobl yr effeithir arnynt gan y clefyd.

Tenovus Cancer Care (Siop Pwllheli) - Gyrrwr Gwirfoddoli

Mae angen cyflenwad rheolaidd o stoc a roddwyd i'n siopau. Mae rhai yn cael eu casglu oddi wrth gwsmeriaid o'u drws ffrynt, rhai a gasglwyd gan fusnesau lleol ac mae rhai yn cael eu symud o un siop i'r llall.

Cymdeithas Alzheimers. Gwirfoddolwyr Cefnogi - codi ymwybyddiaeth o ddementia

Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr Cefnogi i godi ymwybyddiaeth o ddementia. Byddwch yn gyfrifol am gynrychioli Cymdeithas Alzheimer’s yn allanol, gan gynnal cysylltiadau â meddygfeydd Meddygon Teulu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar aar ba mor aml y cynhelir y gwasanaeth ac ar yr amseroedd.  Rydym yn recriwtio nawr ar gyfer meddygfeydd yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Gwirfoddolwr Cefnogol Gofalwyr Ifanc - Gweithredu Dros Blant

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai wneud gwahaniaeth go iawn i ofalwyr ifanc drwy ddarparu cymorth.

14/04/2015

Ffotograffydd - Woodland Trust

Mae Ffotograffwyr gwirfoddol yn hanfodol i'n helpu i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl am waith yr Ymddiriedolaeth. Maent yn cynhyrchu lluniau rhagorol ar gael mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, gan gynnwys ein cylchgrawn 'Broadleaf', cylchlythyrau, deunydd ymgyrchu ac wrth gwrs ein gwefan.

Arweinydd Lleol - Ymunwch

Y llynedd gwelsom etifeddiaeth Llundain 2012 yn fyw ac yn iach mewn cymunedau ar hyd a lled y DU - dros 11,000 o ddigwyddiadau  mewn clybiau chwaraeon lleol a grwpiau cymunedol a thros 100,000 o wirfoddolwyr newydd wedi ymuno ar draws y DU fel rhan o'r 'Ymunwch Haf .

10/03/2015

CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorydd gwirfoddol (16oed +)


Mae Cyngor ar Bopeth (CAB) yn delio gyda nifer o agweddau. Y rhai mwyaf cyffredin mae pobl yn eu hwynebu sy'n dod i'r canolfannau cynghori yw dyled, budd-daliadau, materion cwsmeriaid, tai a chyflogaeth.
Bydd cynghorwyr gwirfoddol yn:
1. cyfweld cleientiaid
2.Helpu drwy drafod gyda asiantaethau eraill megis credydwyr neu darparwyr gwasanaethau
3.Ysgrifennu llythrau
4. Gwneud galwadau ffôn ar ran y cleientiau
5. Cyfeirio at asiantaethau eraill
Ni fydd cynghorwyr gwirfoddol yn cyfweld cleientiaid ar eu pen eu hunain am y 4 mis cyntaf- byddant yn cysgodi gwirfoddolwyr profiadol yn y lle cyntaf drwy ddelio â chleientiaid.

CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorwyr llinell gymorth


Ymgynghorwyr llinell gymorth
Y llinell gymorth yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gleientau CAB.

Bydd y ôl yn cynnwys
1.    Delio gyda amrywiaeth eang o gleientau dros y ffôn
 
2.    Cefnogi gleientau o bob oed a chefndir

3.    Darparu gwybodaeth i’r cleient

4.    Cyfeirio cleientau at asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau arbenigol

5.    Cadw cofnod o achosion gleientau ar fas data
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com