Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

11/08/2015

Dosbarthwyr gwybodaeth - Hearing Link

Mae Hearing Link yn dibynnu ar ddosbarthwyr gwybodaeth i'n helpu i wneud y sefydliad yn hysbys mewn cymunedau lleol ar draws y DU.

Bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â'r rôl hon yn dosbarthu taflenni a phosteri i lyfrgelloedd, meddygfeydd, canolfannau cymunedol, ysbytai a lleoliadau eraill yn eu hardal leol, ac yna yn eu monitro i ailgyflenwi stociau yn ôl yr angen.
Byddai'r rôl hon yn addas i unrhyw un sydd â rhywfaint o amser rhydd a'r gallu i deithio o amgylch eu hardal leol.
Rydym yn annog ein holl wirfoddolwyr i gymryd y rôl hon oherwydd y pwysigrwydd o sicrhau bod ein gwybodaeth i'w cael gan y rhai a allai fod ei angen.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Adolygydd Lleyg Gwirfoddol - Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae angen arolygwyr lleyg gwirfoddol arnom, o amrywiaeth o gefndiroedd o Gymru benbaladr. Rydym yn enwedig yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, a phobl ifanc sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd....
Mae rheolwr arolygu AGIC yn arwain y tîm arolygu, ac mae yno er mwyn eich cefnogi ar bob adeg. Byddwch yn siarad â chleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd er mwyn casglu gwybodaeth am brofiad y claf.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

10/08/2015

Ymatebwyr Desg Gymorth - Hearing Link

Bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â'r rôl hon yn ymateb i ymholiadau a dderbynnir drwy'r Ddesg Gymorth Hearing Link.
Gall hyn amrywio o gwestiynau am offer, gwasanaethau, dosbarthiadau 'lip reading', cefnogaeth emosiynol, neu wasanaethau Hearing Link. Bydd gwirfoddolwyr ym ymateb i ymholiadau dros y ffôn, drwy lythyr, e-bost neu SMS felly mae'n bosibl cyflawni'r swyddogaethau yma o'ch cartref eich hun.
Byddai'r rôl hon yn addas i chi os ydych yn mwynhau ymchwilio i wybodaeth a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig da.

Os gennych ddiddordeb yn y cyfle cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Cymorth Cymunedol - Hearing Link

Bydd gwirfoddolwyr sy'n ymgymryd â'r rôl yma gyda profiad uniongyrchol o golli clyw - naill ai eu hunain neu drwy bartner neu berthynas agos.
Bydd gwirfoddolwyr  rannu eu profiad gyda rhywun sydd wedi cysylltu â Hearing Link am gymorth, weithiau yn cyfarfod wyneb yn wyneb ac weithiau drwy post neu e-bost.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Llysgennad Strôc - Y Gymdeithas Strôc

A oes gennych ddiddordeb fod yn Llysgennad Strôc?  Rhai o ddyletswyddau'r cyfle yw:

*Datblygu a traddodi cyflwyniadau am stroc a'r Gwasanaeth Stroc mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac i grwpiau lleol yn y gymuned.
*Bod yn bresennol mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd i gynrychioli'r Gwasanaeth Stroc..
*Cymeryd Pwysau Gwaed mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r cyswllt rhwng pwysau gwaed uchel a stroc.
*Arwyddo pobol at y Gwasanaeth Stroc am gefnogaeth gan ddosbarthu gwybodaeth a thaflenni i bobl proffesiynol, Canolfannau Meddygol, Canolfannau Iechyd, Canolfannau Ymarfer Corff, Llyfrgelloedd ac unrhyw leoliad arall yn eich ardal
*Mynychu digwyddiadau a derbyn sieciau ar ran y Gwasanaeth Stroc.
*Cefnogi ymgyrchoedd yn lleol ac adrodd yn ol am unrhyw gyfleoedd posib i godi mwy o arian neu i gael cefnogaeth gan wirfoddolwyr, i ymgyrchu i ni allu mynd ar drywydd y rhain.


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

06/08/2015

Gwirfoddlwr Addysg Cymorth Cyntaf i Oedolion

Ein nod yw sicrhau bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl yn y gymuned yn cael yr help y mae arnynt ei angen os cânt eu hanafu neu’u taro’n wael yn sydyn.  Hoffech chi ein helpu i wneud hyn?

Mae’r Groes Goch yn gweithio i sicrhau bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl yn y gymuned yn cael yr help y mae arnynt ei angen os cânt eu hanafu neu’u taro’n wael yn sydyn. Drwy gyflwyno sgiliau cymorth cyntaf syml, perthnasol i’r rheini sydd fwyaf tebygol o fod yno adeg yr argyfwng, rydym yn gobeithio lliniaru’r canlyniadau angheuol neu ddifrifol posib. Caiff yr hyfforddiant cymorth cyntaf ei deilwra’n unol ag anghenion y grŵp a chaiff ei gyflwyno mewn ffordd anffurfiol, hyblyg. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n gallu cyfathrebu gyda phobl agored i niwed, eu teuluoedd, a’r rheini sy’n gysylltiedig â’u cefnogi.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cyfleoedd Gwirfoddoli yn Dru Yoga

Mae Dru UK yn darparu hyfforddiant mewn yoga, myfyrfio a datblygu personol.

Mae angen gwirfoddolwyr i:
Gynnal a chadw gwefan,  Gyflawni gwaith gweinyddol, Werthu, Gynnal a chadw'r tiroedd,  Gyflawni dyletswyddau cegin,  Ffotograffu,  Brawf ddarllen,  Helpu gyda chyllid.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

04/08/2015

Wales Air Ambulance Caernarfon Shop Assistant

Wales Air Ambulance in Caernarfon are looking for volunteers to assisting with general shop work  - operating the till, keeping the shop clean and tidy, looking after the stock serving customers.

For further information contact Mantell Gwynedd on 01286 672626 or carwyn@mantellgwynedd.com