Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/08/2015

Gwirfoddlwr Addysg Cymorth Cyntaf i Oedolion

Ein nod yw sicrhau bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl yn y gymuned yn cael yr help y mae arnynt ei angen os cânt eu hanafu neu’u taro’n wael yn sydyn.  Hoffech chi ein helpu i wneud hyn?

Mae’r Groes Goch yn gweithio i sicrhau bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl yn y gymuned yn cael yr help y mae arnynt ei angen os cânt eu hanafu neu’u taro’n wael yn sydyn. Drwy gyflwyno sgiliau cymorth cyntaf syml, perthnasol i’r rheini sydd fwyaf tebygol o fod yno adeg yr argyfwng, rydym yn gobeithio lliniaru’r canlyniadau angheuol neu ddifrifol posib. Caiff yr hyfforddiant cymorth cyntaf ei deilwra’n unol ag anghenion y grŵp a chaiff ei gyflwyno mewn ffordd anffurfiol, hyblyg. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n gallu cyfathrebu gyda phobl agored i niwed, eu teuluoedd, a’r rheini sy’n gysylltiedig â’u cefnogi.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com