A oes gennych ddiddordeb fod yn Llysgennad Strôc? Rhai o ddyletswyddau'r cyfle yw:
*Datblygu a traddodi cyflwyniadau am stroc a'r Gwasanaeth Stroc mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac i grwpiau lleol yn y gymuned.
*Bod yn bresennol mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd i gynrychioli'r Gwasanaeth Stroc..
*Cymeryd Pwysau Gwaed mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r cyswllt rhwng pwysau gwaed uchel a stroc.
*Arwyddo pobol at y Gwasanaeth Stroc am gefnogaeth gan ddosbarthu gwybodaeth a thaflenni i bobl proffesiynol, Canolfannau Meddygol, Canolfannau Iechyd, Canolfannau Ymarfer Corff, Llyfrgelloedd ac unrhyw leoliad arall yn eich ardal
*Mynychu digwyddiadau a derbyn sieciau ar ran y Gwasanaeth Stroc.
*Cefnogi ymgyrchoedd yn lleol ac adrodd yn ol am unrhyw gyfleoedd posib i godi mwy o arian neu i gael cefnogaeth gan wirfoddolwyr, i ymgyrchu i ni allu mynd ar drywydd y rhain.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com