Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

11/08/2015

Adolygydd Lleyg Gwirfoddol - Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae angen arolygwyr lleyg gwirfoddol arnom, o amrywiaeth o gefndiroedd o Gymru benbaladr. Rydym yn enwedig yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, a phobl ifanc sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd....
Mae rheolwr arolygu AGIC yn arwain y tîm arolygu, ac mae yno er mwyn eich cefnogi ar bob adeg. Byddwch yn siarad â chleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd er mwyn casglu gwybodaeth am brofiad y claf.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com