Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

25/08/2015

Dogfennu casgliad Daeareg, Adeilad Brambell ac Adeilad Thoday

Cyfle gwych i ddysgu mwy am sbesimenau, casgliadau, gofal amgueddfaol a dogfennu. Prif ddyletswyddau’r rol fydd cynorthwyo hefo catalogio a gwirio lleoliadau spesimenau, gwneud rhestrau, gwirio yn erbyn catalog cyfredol a mewnbynnu gwybodaeth catalog i mewn i’r cronfa ddata. Bydd y gwaith yn cynnwys glanhau eitemau, eu trin, symud neu eu hail bacio. Mae gwybodaeth neu cefndir mewn daeareg yn hanfodol.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

14/08/2015

Tywyswyr ymwelydd Swoleg - Agor Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn Adeilad Brambell 2015

Cyfle gwych i gyfrannu at brofiad yr ymwelydd yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor. Y prif ddyletswyddau fydd cyfarch ymwelwyr pan maent yn cyrraedd mewn ffordd groesawgar, cynorthwyo hefo rhoi gwybodaeth gyffredinol a chymorth i ymwelwyr a rhoi gwybodaeth fwy manwl am y prif spesimens sydd yn cael eu harddangos. Gwylio’r Amgueddfa i sicrhau nad yw’r spesimens yn cael eu difrodi a chynorthwyo hefo diogelwch fel nad yw ymwelwyr yn crwydro i rannau eraill o’r adeilad.
Mae gwybodaeth a chefndir mewn hanes natur yn hanfodol a bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar y casgliadau sydd yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa.
 Bydd y rôl yma ar sail yn ôl yr angen gan nad yw’r Amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ar wahân i ddiwrnodau agored, e.e. yr Ŵyl Wyddoniaeth a Gŵyl Diwrnodau Agored. Rhagwelir y bydd yr Amgueddfa ar agor yn fwy rheolaidd e.e. unwaith y mis yn y dyfodol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Ymchwilydd – Casgliad Pren wedi ei Ddifrodi, Prifysgol Bangor

Cyfle gwych i gyfrannu at gwella dehongli a dealltwriaeth o gasgliad pren wedi ei ddifrodi sydd wedi ei leoli yn Adeilad Thoday. Y prif dasgau fydd:-
Gwneud ymchwil i gefndir y sbesimenau sydd ar gael yn y casgliad pren wedi ei ddifa. Bydd yr ymchwil yn gallu cael ei wneud adref drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Ysgrifennu darnau wedi ei grynhoi ar gefndir y sbesimenau o’r ymchwil (bydd templed yn cael ei ddefnyddio i gofnodi’r wybodaeth) fel ei bod yn bosib ail ddefnyddio ac addasu’r wybodaeth wedyn ar gyfer creu labeli ac ar y gwefan.

Bydd diddordeb neu cefndir yn y maes entomoleg, coedwigaeth neu yr amgylchedd yn hanfodol a bydd cyflwyniad yn cael ei roi ar y casgliad sydd yn y Brifysgol.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr - Amgueddfa ac Oriel Gwynedd

Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes?  Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod yr wythnos neu’r mis?  Mae Storiel yn agor yn ystod tymor yr hydref yng nghanol Bangor.  Dim amgueddfa ac oriel newydd yw hon, ond yn hytrach cyfnod newydd sbon yn hanes Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.  Byddwn yn symud i ofod newydd ac mi fydd cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel  i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb.  Mae’n hanfodol gallu sgwrsio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y rôl hon.  Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael.  Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol.  Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y siop,     derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

11/08/2015

Gwirfoddolwr cefnogi grwp - Tan y Maen

Oes gennych ychydig o oriau rhydd ar ddydd Gwener?  Mae Canolfan Tan y Maen yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi'r grwp allanol yn Nolgellau.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Caplan Aml-ffydd Gwirfoddol yr Heddlu

A allech roi o leiaf dwy awr o’ch amser bob wythnos?

A oes gennych diddordeb mewn cefnogi eich swyddogion a staff heddlu lleol wrth iddyn nhw weithio i wneud Gogledd Cymru yn fwy diogel?

A allech roi cefnogaeth a chydymdeimlad i swyddogion a staff sy’n wynebu sefyllfaoedd a allent fod yn drallodus ac a fydd yn eu rhoi dan lawer iawn o bwysau? A fyddech yn fodlon treulio amser yn mynd allan gyda swyddogion a staff er mwyn cael syniad da o’r hyn y maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.

A ydych yn barod i ddysgu ynghylch yr heriau sy’n wynebu ein heddlu?

A fyddech yn gallu datblygu cyfleoedd i gefnogi swyddogion a staff yn rhyngweithiol drwy fod yn rhywun hawdd mynd atynt sy’n gallu gwrando’n effeithiol? Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno recriwtio Caplan Gwirfoddol aml-ffydd i ddarparu gofal bugeiliol ac ysbrydol ar gyfer aelodau’r Heddlu a’u teuluoedd, datblygu rhwydweithiau aml-ffydd o fewn yr heddlu, cynorthwyo i ofalu am les staff, cefnogi plismona gweithredol a hwyluso ymgysylltiad.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirwyr dolenau clyw (Hearing Loops) - Hearing Link

Mae llawer o siopau a banciau wedi gosod systemau dolen clyw (hearing loops), gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw, ond a ydynt bob amser yn gweithio?
Rôl ein gwirwyr dolenau clyw yw i ymweld â siopau a banciau lleol a chwblhau holiadur ac yn adrodd yn ôl ar y gwasanaeth a gawsoch.
Rydym yn cynnal archwiliadau dolen blynyddol ar draws y DU ac mae angen cymaint o wirfoddolwyr gan ein bod yn gallu ymgynnull i edrych ar ddolenni mewn mannau cyhoeddus a rhoi gwybod i ni os ydynt yn gweithio.
Yn ddelfrydol, dylai gwirfoddolwyr fynd allan mewn parau a dylai o leiaf un o'r gwirwyr ddefnyddio cymorth clyw.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cynorthwyo yng nghystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Cymru - Partneriaeth Awyr Agored

Cystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Gwynedd
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yng nghystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Cymru. Byddem angen unigolion i helpu gyda chadw amseroedd, marsialu ag ar gychod achub.
-Ynys Môn (lleoliad i'w gadarnhau) Dydd Mercher, Medi 30ain 10:00-15:30
-Ysgolion gogledd Cymru (Llyn Padarn) Dydd Iau, Hydref 1af. 10:00-15:30
- Ysgolion de Gwynedd (Gwersyll Glan-llyn) Dydd Gwener, Hydref 2il 10:00-15:30
- Ffeinal (Llyn Padarn) Dydd Gwener, Hydref 9fed, 10:00-15:30
Bydd crys-T a 'Buff' ar gael i bawb sy'n gwirfoddoli.


Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com