Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

14/08/2015

Tywyswyr ymwelydd Swoleg - Agor Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn Adeilad Brambell 2015

Cyfle gwych i gyfrannu at brofiad yr ymwelydd yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor. Y prif ddyletswyddau fydd cyfarch ymwelwyr pan maent yn cyrraedd mewn ffordd groesawgar, cynorthwyo hefo rhoi gwybodaeth gyffredinol a chymorth i ymwelwyr a rhoi gwybodaeth fwy manwl am y prif spesimens sydd yn cael eu harddangos. Gwylio’r Amgueddfa i sicrhau nad yw’r spesimens yn cael eu difrodi a chynorthwyo hefo diogelwch fel nad yw ymwelwyr yn crwydro i rannau eraill o’r adeilad.
Mae gwybodaeth a chefndir mewn hanes natur yn hanfodol a bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar y casgliadau sydd yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa.
 Bydd y rôl yma ar sail yn ôl yr angen gan nad yw’r Amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ar wahân i ddiwrnodau agored, e.e. yr Ŵyl Wyddoniaeth a Gŵyl Diwrnodau Agored. Rhagwelir y bydd yr Amgueddfa ar agor yn fwy rheolaidd e.e. unwaith y mis yn y dyfodol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com