A allech roi o leiaf dwy awr o’ch amser bob wythnos?
A oes gennych diddordeb mewn cefnogi eich swyddogion a staff heddlu lleol wrth iddyn nhw weithio i wneud Gogledd Cymru yn fwy diogel?
A allech roi cefnogaeth a chydymdeimlad i swyddogion a staff sy’n wynebu sefyllfaoedd a allent fod yn drallodus ac a fydd yn eu rhoi dan lawer iawn o bwysau? A fyddech yn fodlon treulio amser yn mynd allan gyda swyddogion a staff er mwyn cael syniad da o’r hyn y maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.
A ydych yn barod i ddysgu ynghylch yr heriau sy’n wynebu ein heddlu?
A fyddech yn gallu datblygu cyfleoedd i gefnogi swyddogion a staff yn rhyngweithiol drwy fod yn rhywun hawdd mynd atynt sy’n gallu gwrando’n effeithiol? Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno recriwtio Caplan Gwirfoddol aml-ffydd i ddarparu gofal bugeiliol ac ysbrydol ar gyfer aelodau’r Heddlu a’u teuluoedd, datblygu rhwydweithiau aml-ffydd o fewn yr heddlu, cynorthwyo i ofalu am les staff, cefnogi plismona gweithredol a hwyluso ymgysylltiad.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com